Enghraifft o'r canlynol | Tour de France |
---|---|
Math | 2.UWT |
Rhan o | 2011 UCI World Tour |
Dechreuwyd | 2 Gorffennaf 2011 |
Daeth i ben | 24 Gorffennaf 2011 |
Rhagflaenwyd gan | Tour de France 2010 |
Olynwyd gan | Tour de France 2012 |
Yn cynnwys | 2011 Tour de France, Stage 1, 2011 Tour de France, Stage 2, 2011 Tour de France, Stage 3, 2011 Tour de France, Stage 4, 2011 Tour de France, Stage 5, 2011 Tour de France, Stage 6, 2011 Tour de France, Stage 7, 2011 Tour de France, Stage 8, 2011 Tour de France, Stage 9, 2011 Tour de France, Stage 10, 2011 Tour de France, Stage 11, 2011 Tour de France, Stage 12, 2011 Tour de France, Stage 13, 2011 Tour de France, Stage 14, 2011 Tour de France, Stage 15, 2011 Tour de France, Stage 16, 2011 Tour de France, Stage 17, 2011 Tour de France, Stage 18, 2011 Tour de France, Stage 19, 2011 Tour de France, Stage 20, 2011 Tour de France, Stage 21 |
Gwefan | http://www.letour.fr/indexus.html |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Tour de France 2011 oedd 98fed rhifyn o'r Tour de France. Cychwynodd ar 2 Gorffennaf 2011 gyda chymal cyntaf o 80 cilomedr yn Passage du Gois, a gorffenodd ar y Champs-Élysées ym Mharis ar 24 Gorffennaf. Cyhoeddwyd llwybr Tour de France 2011 ar 19 Hydref 2010.
Roedd pwyslais y ras yn yr Alpau yn 2011, fel ag y bu ras 2010 ar y Pyreneau, er mwyn dathlu canmlwyddiant y Tour yn teithio drost eu brig.[1] Ymwelwyd â Col du Galibier ddwywaith yn ystod y ras, ac yng nghymal 18 gorffennodd y peleton ar frig y mynydd, ar uchder o 2645 medr, am y tro cyntaf.[2] Hwn oedd y pwynt uchaf lle bu cymal yn gorffen erioed yn ystod y ras, gan guro'r record gynt, a ddelwyd gan y Col du Granon (2413 m, ger Serre Chevalier) lle orffennodd cymal 17 yn Tour de France 1986.